Ymgysylltu â chyflogwyr a chymunedau

Mae darparwyr yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau yn y diwydiant, arferion yn y gweithle a gofynion sgiliau digidol. Mae dysgwyr yn ymwneud â gwella darpariaeth ddigidol a gallant ddefnyddio dulliau gweithredu a systemau yn ddiogel ac yn ddoeth.

intro icon

Ymgynghori a phartneriaethau

Mae darparwyr dysgu yn cynnal eu hymwybyddiaeth ynghylch arferion perthnasol y diwydiant ac ynghylch y gofynion presennol o ran sgiliau digidol a’r rheiny sy’n dod i’r amlwg, drwy ymgynghori a drwy bartneriaethau â chyflogwyr a chymunedau.

Nodau cysylltiedig

  • Safonau digidol

    Safonau clir y cytunwyd arnynt yn genedlaethol ar gyfer sgiliau digidol yn eu lle i alluogi dysgwyr a staff i fodloni gofynion y diwydiant, y sector preifat a'r sector cyhoeddus, gan adeiladu ar y cymwyseddau digidol a ddatblygwyd yn ystod addysg orfodol.

  • Dysgu gwell Nod cyffredin

    Mae dysgu yn cael ei gyfoethogi trwy ddefnyddio technoleg, lle bynnag y mae'n briodol ac yn fuddiol i'r dysgwr.

Sgiliau yn y gweithle

Mae darpariaeth ddysgu sydd wedi’i galluogi’n ddigidol wedi’i chynllunio i adlewyrchu arferion y diwydiant ac ymwybyddiaeth ynghylch y gofynion presennol o ran sgiliau digidol yn y gweithle a’r rheiny sy’n dod i’r amlwg.

Nodau cysylltiedig

  • Diwylliant cydweithredol

    Mae diwylliant o gydweithio yn sicrhau bod gwybodaeth ac arfer gorau yn cael eu rhannu i ysgogi defnydd effeithiol o sgiliau digidol er mwyn cefnogi prosesau arweinyddiaeth, dysgu a busnes.

  • Cysono adnoddau Nod cyffredin

    Mae staff, adnoddau dysgu ac adnoddau busnes wedi'u halinio i alluogi cefnogaeth effeithlon i ofynion digidol addysg ôl-16 sy'n esblygu'n barhaus.

Cynnwys dysgwyr

Mae dysgwyr yn chwarae rhan weithredol wrth werthuso effeithiolrwydd dysgu digidol ac wrth gynllunio a gweithredu gwelliannau.

Nodau cysylltiedig

  • Deall manteision Nod cyffredin

    Mae'r holl staff, gan gynnwys uwch arweinwyr, yn deall manteision technoleg ddigidol, a rhwystrau posibl i'w cyflawni.

  • Gwelliant parhaus

    Darperir cefnogaeth ar gyfer gwelliant parhaus profiad y dysgwr a phrosesau busnes trwy ddefnydd effeithiol ac arloesol o dechnoleg ddigidol.

Llesiant ar-lein

Mae dysgwyr yn deall y cyfleoedd a’r risgiau sy’n gysylltiedig â defnyddio technoleg, gan gynnwys diogelwch ar-lein, defnydd cyfrifol o’r cyfryngau cymdeithasol a rheoli enw da ar-lein.

Nodau cysylltiedig

  • Profiad diogel

    Mae profiad addysgu a dysgu diogel a sicr yn cael ei roi ar waith a'i reoli ar gyfer yr holl ddysgwyr a staff trwy ddarparu amgylcheddau rhithwir a ffisegol priodol.

Yr Iaith Gymraeg

Mae darparwyr dysgu yn ystyried cyfleoedd perthnasol i ddysgwyr ddefnyddio, gwella a magu hyder wrth ddefnyddio sgiliau Cymraeg wrth gynllunio a gweithredu technolegau digidol newydd.

Nodau cysylltiedig

  • Cydlyniad a hygyrchedd

    Cynyddir cydlyniad a hygyrchedd dysgu digidol drwy amrywiaeth o ddulliau cyflwyno’r cwricwlwm sy'n briodol i anghenion dysgwyr a chyflogwyr, ac sy'n cynnig cyfleoedd dysgu yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Safonau Cysylltiedig